top of page

Y Dyn Eira hudolus yn fyw yn Llangollen

Daeth y ffilm hanfodol Nadoligaidd i Langollen gyda cherddorfa fyw – dyma aeth y diwrnod!


Ym mis Rhagfyr 2023 buom yn gweithio mewn partneriaeth ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i gyflwyno digwyddiad bythgofiadwy i’r teulu er mwyn codi arian tuag at elusennau a hyrwyddo heddwch a llawenydd i bawb adeg y Nadolig. Gorffennwyd y cyngerdd gyda ffilm ‘Y Dyn Eira', gyda'i thrac sain hudolus wedi chwarae yn fyw gan NEW Sinfonia a'r arweinydd Robert Guy.



Nid oedd un sedd yn wag yn Neuadd Pafiliwn Llangollen lle fuodd gynulleidfaoedd yn cymeradwyo are eu traed ymysg yr holl hwyl a sbri.


Roedd y cyngerdd yn cynnwys detholiad o ganeuon poblogaidd a charolau a ganwyd gan NEW Lleisiau, ein hensemble lleisiol cymunedol ysbrydoledig, a oedd hefyd yn cynnwys ffoaduriaid o Wcráin. Arweiniodd Polina Horelova, sy’n wreiddiol o Mariupol yn yr Wcrain, y côr a’r cerddorion drwy’r garol Wcrainiaidd ‘Shchedrykt’ – a adnabyddir yn fwy cyffredin fel Carol y Clychau. Roedd y darn hefyd yn cynnwys unawd gan y soprano Wcrainiadd clodwiw Khrystyna Makar.



“Diolch, i'r tim arbennig. Llwyddiant ysgubol ac rydw i mor falch o fod wedi bod yn rhan ohono.” - Aelod NEW Lleisiau


Roedd yna lawer o weithgareddau Nadoligaidd rhyngweithiol eraill gan gynnwys sesiynau adrodd stori gyda'r artist gair llafar lleol, Fiona Collins, a gweithgareddau dylunio gydag ein Dyn Eira ni a Siôn Corn ei hun (cyn Faer Llangollen, Austin Chem)!



Trwy ein partneriaeth â UareUK roeddem yn gallu gwahodd teuluoedd o grŵp banc bwyd Llangollen a’r Hyb ffoaduriaid i gael brecwast gyda Siôn Corn cyn cael mynediad arbennig i weld y ffilm a’r gerddorfa yn eu hymarfer gwisg.


Yn ogystal â bod yn wledd Nadoligaidd fendigedig, cododd y cyngerdd arian i gefnogi Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ac elusen leol sy’n cefnogi ffoaduriaid sy’n noddfa yng Ngogledd Cymru.

0 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page