top of page

CROESO

Updated: Feb 17

Croeso i'n gwefan newydd sbon! 2021 yw ein 10fed Pen-blwydd ac mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi ymuno â ni yn y dathliadau. Rydym wedi addasu a datblygu trwy'r pandemig, gan arloesi a pharhau i ddod â cherddoriaeth i'n cynulleidfaoedd. Rydym wedi dod yn elusen gyda bwrdd o ymddiriedolwyr newydd a gallwch ddarllen mwy amdanynt a'r tîm artistig o fewn yr adran 'Amdanom Ni' ar ein gwefan. Mae gennym gynlluniau enfawr ar y gweill ar gyfer y dyfodol gyda mantra o brofiadau NEWYDD gyda chynulleidfaoedd NEWYDD ar gyfer Cymru NEWYDD. Rydyn ni am ddangos bod cerddoriaeth glasurol ar gyfer bawb, tyfu cynulleidfaoedd, gwella cynrychiolaeth, a darparu cyfleoedd i bawb sydd ag angerdd am gerddoriaeth ddilyn eu breuddwydion. Rydyn ni eisiau defnyddio ein cerddoriaeth fel grym er budd cymunedau ledled y wlad (a thu hwnt).

Rydym yn chwilio am gwsmeriaid, noddwyr a phartneriaid i weithio gyda ni ar ein taith a gallwch ein helpu ar ein ffordd trwy ein tudalen 'Cefnogwch Ni'. Dewch i ymuno â theulu NEW Sinfonia. Diolch am deithio gyda ni ac edrychaf ymlaen at gwrdd â chi yn fuan. Rob




6 views0 comments
bottom of page