

Mae ein tîm wedi'u hysgogi gan angerdd i chwalu rhwystrau i addysg cerddoriaeth yng Ngogledd Cymru. Mae NEW Academi yn meithrin cerddorion ifanc Cymreig o gyflwyno teithiau cerddorol gyda phrofiadau cyntaf, i gefnogi cerddorion ifanc dros eu plentyndod, a galluogi cerddorion i gyflawni eu dyheadau proffesiynoli trwy datblygiad artistig proffesiynol.

Cyflwyno

I’n cynulleidfaoedd ieuengaf, mae ein stori antur gerddorol hudolus Slumbersaurus yn gyflwyniad perffaith i gerddoriaeth glasurol. Mae Slumbersaurus yn ddeinosor ifanc chwilfrydig sy'n cychwyn ar anturiaethau mympwyol sy'n annog creadigrwydd a rhyngweithio. Wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer babanod a phlant iau, mae perfformiadau arloesol Slumbersaurus yn cyfuno cerddoriaeth fyw, adrodd straeon, a chwarae dychmygus i greu profiadau difyr, hygyrch ac amlsynhwyraidd, wrth gyflwyno pobl ifanc i gerddoriaeth a cherddorion clasurol.



Ers 2023 mae NEW Sinfonia wedi cyflwyno digwyddiadau Slumbersaurus i dros 1,500 o blant mewn amrywiaeth o leoliadau a sefyllfaoedd. Mae Slumbersaurus yn ddigwyddiad talu-yr hyn y gallwch chi, sy'n ei wneud yn hygyrch i bawb.

Cefnogi
Mae addysg ac ymgysylltiad cymunedol yn ganolog i'n cenhadaeth. Rydym yn cyflwyno gweithdai a pherfformiadau mewn ysgolion a chanolfannau cymunedol sy'n ysbrydoli cerddorion ifanc. Rydym yn falch o weithio ochr yn ochr â phob un o’r pum Gwasanaeth Cerdd ar draws Gogledd Cymru, gan gefnogi a darparu perfformiadau a gweithdai. Yn 2024 fe wnaethom gyflwyno dros 100 awr o weithdai ar gyfer cerddorion ifanc uchelgeisiol gyda chyfanswm presenoldeb o 691.

'Mae ein gwaith gyda NEW Sinfonia yn hynod boblogaidd gyda disgyblion Gwynedd a Môn. Mae Rob a Jon bob amser yn ymdrechu i'r eithaf i ddeall ein hanghenion a'n gofynion cyn cynllunio a chyflwyno prosiectau gwych gyda cherddorion rhagorol. Mae'n hyfryd gweithio gyda'r fath dalent sy'n ymrwymedig i addysg cerddoriaeth.'
- Tudur Eames (Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaeth Cerdd Ysgolion)
‘Fel rhiant, credaf fod chwarae mewn cerddorfa yn gyfle arbennig ac mae hi wir wedi ysbrydoli fy mab Henry fel cerddor ifanc.’ – Charlotte Beynon

Mae ein prosiectau ochr-yn-ochr yn caniatáu i gerddorion ifanc chwarae ochr-yn-ochr â’n cerddorfa broffesiynol mewn gweithdai a pherfformiadau.
Rydym yn cynnal prosiectau ochr-yn-ochr ar draws prosiectau NEW Sinfonia gan gynnwys ein opera Gresffordd: I'r Goleuni 'Nawr ac yn flynyddol yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru.

Cyflawni
‘Mi oedd dysgu wrth chwarae ymhlith y cerddorion ysbrydoledig yn amhrisiadwy’ – Elana Kenyon-Gewirtz
Rydym yn cefnogi artistiaid ifanc a cherddorion proffesiynol newydd yn eu datblygiad artistig trwy ddarparu profiad proffesiynol amhrisiadwy, gweithdai, a chyfleoedd perfformio iddynt. Mae ein partneriaeth gyda Choleg Cerdd Frenhinol y Gogledd yn darparu profiad hanfodol i gerddorion ifanc, ac yn dod â chyngherddau o safon uchel i gynulleidfaoedd yng Ngogledd Cymru. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r Academi Arwain Ryngwladol gan ddarparu gweithdai a dosbarthiadau meistr i arweinwyr addawol.

Our NEW Academi Partners
'Mae NEW Sinfonia wedi bod yn wych yn adnabod yr angen am gerddoriaeth broffesiynol o safon uchel yng Ngogledd Cymru. Mae eu cysylltiadau cryf â’r RNCM yn gyffredinol, a’r Adran Arwain yn benodol, hefyd wedi arwain at gydweithio gwych rhyngom. Mae'r cyfleoedd hyn i'n myfyrwyr weithio gyda gweithwyr proffesiynol ifanc yn hynod fuddiol i bawb.'
- Mark Heron - Athro a Phennaeth Arwain yn yr RNCM
Derbyn diweddariadau ynglŷn â phrosiectau’r dyfodol trwy gofrestru i Gylchlythyr NEW Sinfonia a trwy ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol