top of page
Woman smiling holding a violin

Ein partneriad

Mae NEW Sinfonia yn falch o gael gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau angerddol blaenllaw rhyngwladol, cenedlaethol a rhanbarthol

North Wales International Music Festival logo

North Wales International

Music Festival 

“Dros y chwe blynedd diwethaf rydym wedi bod yn falch iawn o gael NEW Sinfonia fel ein cerddorfa breswyl.  Maent yn grŵp bywiog, brwdfrydig ac ysbrydoledig o chwaraewyr sy'n chwarae gydag aeddfedrwydd o ansawdd a dyfnder sydd wedi eu gweld yn dennu nifer sylweddol o gefnogwyr  gwerthfawrogol iawn.  Mae gweithio ar y cyd â nhw wedi cynnig cyfleoedd a bendigedig i ni ddatblygu cyngherddau a phrosiectau addysg. ”

 

Ann Atkinson - Cyfarwyddwr Artistig

Royal Northern College of Music (RNCM) 

Mae NEW Sinfonia wedi  nodi'r angen i greu cerddoriaeth broffesiynol o ansawdd uchel yng Ngogledd Cymru mewn ffordd wych.  Mae eu cysylltiadau cryf â'r RNCM , a'r Adran Arwain yn benodol,  wedi hwyluso  cydweithrediadau gwych rhyngom.  Mae'r cyfleoedd hyn i'n myfyrwyr weithio gyda gweithwyr proffesiynol ifanc sy’n agos at eu hoedran wedi bod yn hynod fuddiol i bawb sy’n cymryd rhan. 

​

Mark Heron - Athro a Phennaeth Arwain

Royal Northern Colledge of Mucis logo
two men playing violin with an orchestra
Canolfan Gerdd William Mathias logo

Canolfan Gerdd William Mathias 

“Cymerodd llawer o’n myfyrwyr ran yn y gweithdai dan arweiniad NEW Sinfonia a chawsant gyfle i berfformio premier  byd eang o waith gan Jon Guy, ochr yn ochr â’r gweithwyr proffesiynol ifanc -  profiad gwirioneddol ysbrydoledig i bawb a gymerodd ran.  Roedd yn amlwg iawn yn y cyfarfodydd a gawsom fod NEW Sinfonia yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod eu gweithgareddau yn brofiad cadarnhaol i bawb sy'n cymryd rhan.  Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithredu pellach yn y dyfodol. ”

​

Meinir Llwyd Roberts - Cyfarwyddwr

​

Dangerpoint Charity

Rydyn ni wedi cael y pleser o weithio gyda NEW Sinfonia ers blynyddoedd lawer wrth iddynt  ymuno â ni ar gyfer ein Cyngerdd Nadolig. Mae hi bob amser yn bleser pur  i glywed  nhw'n perfformio.  Maent bob amser mor broffesiynol ac mae ganddynt hefyd  agwedd gyfeillgar sydd yn eu galluogi i.  ymgysylltu â'r gynulleidfa.  Mae'r adborth a gawn gan y rhai sy'n mynychu ein cyngherddau bob amser mor gadarnhaol ac roeddem yn siomedig iawn nad oeddem yn gallu cynnal ein cyngerdd yn 2020 ond rydym yn bendant yn edrych ymlaen at weithio gyda'r grŵp eto cyn gynted ag y gallwn.

​

Cat Harvey - Dirprwy Reolwr

Dangerpoint Charity logo
 Disability Arts Cymru logo

 Disability Arts Cymru

"Prif elusen Cymru ar gyfer  celfyddydau anabledd. Rydyn ni'n chwalu rhwystrau, er mwyn cynnwys pobl o bob gallu yn ein digwyddiadau diwylliannol.

​

“Roedd yn ddiddorol ac yn  addysgiadol iawn gweithio gyda NEW Sinfonia, a helpu i'w cefnogi gyda'u prosiect 'Rhwydwaith Cerddorion Anabl'.  Cyflwynodd y grŵp seminarau Holi ac Ateb cryf gan roi llwyfan ar gyfer datblygu’r prosiect ymhellach. "

​

Alan Whitfield - DAC Swyddog Cenedlaethol

​

Mwy o'n partneriaid

Arts and Business Cymru logo
ACW.png
Ty Cerdd logo bw.png
bottom of page