Tîm artistig
Rheolwr Prosiect a Churadur
Rheolwr Prosiect a Churadur
Daw Robert o Ogledd Cymru ac mae'n arweinydd, cyflwynydd cyngherddau, cyfarwyddwr artistig ac athro, gydag ystod eang o sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol. Yn eiriolwr dros gerddoriaeth newydd, mae Robert wedi cynnal 39 premier byd eang, tra’n gweithio gyda cherddorfeydd megis Cherddorfa Opera North, Manchester Camerata a NEW Sinfonia. Fe’i dewiswyd gan Kirill Karabits i weithio gyda Cherddorfa Britten Pears yn eu Rhaglen ‘Artistiaid Ifanc’ a’r Dosbarth Meistr Digidol Ar-lein cyntaf gyda Neemi Järvi dan ofal Meta Artists International.
Mae dull cydweithredol Robert o ennyn ymddiredaeth cerddorion wedi cael ei lunio gan ei yrfa broffesiynol gynnar fel chwaraewr fiola, yn arbennig gyda Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl ac ochr yn ochr â Phedwarawdau Llinynnol ‘Allegri’ ac ‘Edinburgh’. Fel arweinydd gwadd, mae Robert yn gweithio'n rheolaidd gyda Manchester Camerata lle mae wedi perfformio gyda Tine Thing Helseth, recordio ar gyfer Sony Playstation a pherfformio ar gyfer Gŵyl Ryngwladol Manceinion. Robert yw Cyfarwyddwr rhaglen elitaidd arwain israddedig Prifysgol Manceinion, Pennaeth Rhaglenni Corawl a Chyfarwyddwr Ensembles.
Mae Jon Guy yn greawdwr cerddoriaeth sydd wedi ei leoli yn Stockport, gydag ymlyniad cryf â Gogledd Cymru lle cafodd ei fagu a ble mae'n parhau i gynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth. Mae'n gyd-sylfaenydd NEW Sinfonia, cerddorfa arloesol wedi'i lleoli yng Ngogledd Cymru. Yn wreiddiol, nod y gerddorfa oedd darparu profiad proffesiynol i gerddorion oedd yn dechrau dod i'r amlwg, ond nawr maent eisiau bod yn arloeswyr gan greu profiadau cerddorol newydd i gynulleidfaoedd newydd yng Nghymru a thu hwnt.
Mae ei rôl fel Cyd-Cyfarwyddwr Artistig a Chyfansoddwr Preswyl gyda NEW Sinfonia yn caniatau iddo ehangu ei ddiddordeb eang mewn sawl genre o gerddoriaeth. Mae o wedi cael ei ysbrydoli gan ystod o grewyr cerddoriaeth sydd wedi cydweithio ar brosiectau’r cerddorfa.
Yn ogystal â chyfansoddi a pherfformio gyda NEW Sinfonia, mae Jon wedi perfformio fel clarinetydd gyda Cherddorfa ‘Opera North’, Ffilharmonig y BBC, Manchester Camerata, a’r ‘Northern Chamber Orchestra’, ac ef yw’r clarinetydd bas gydag Ensemble Cerddoriaeth Gyfoes IMMIX sydd wedi'i leoli yn Lerpwl.
Mae Bethan yn delynores a phianydd arobryn wedi'i lleoli yng Ngogledd Cymru. Graddiodd gyda Meistr Perfformiad ar y Delyn gyda Rhagoriaeth yn 2019 a dyfarnwyd iddi wobr fawreddog y ‘Queen Elizabeth, The Queen Mother Rose Bowl’. Enillodd Bethan y wobr gyntaf ar yr unawd telyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chafodd ei dewis i gystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth fawreddog y Blue Riband ar ddau achlysur. Yn 2016 dyfarnwyd iddi Ysgoloriaeth Nansi Richards i delynorion, yn ogystal â Gwobr Delyn y Coleg Cerdd Brenhinol.
Mae Bethan yn perfformio gyda llawer o gerddorfeydd ledled Prydain gan gynnwys NEW Sinfonia - cerddorfa breswyl yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham a Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes Birmingham. Yn gerddor siambr brwd, mae Bethan yn perfformio’n rheolaidd gyda’i deuawd Ffliwt a Thelyn, 'Hefin'yn ogystal â ‘ ‘Trilogy’, triawd ffliwt, telyn a fiola.
Mae Katherine yn soprano ac arweinydd o Gaerdydd a wnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf haf diwethaf yn Ŵyl Ryngwladol Buxton fel y brif ran yn ‘The Enchanted Pig’ gan Jonathan Dove. Graddiodd o Brifysgol Fanceinion gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf lle astudiodd canu gyda Catherine Mikic a dderbyniodd Gwobr Procter-Gregg am ddatganiad gorau. Yn y gorffennol astudiodd canu, fiolin, a’r corn Ffrengig fel rhan o gwrs uwchradd y Coleg Cerdd Frenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Cymrodd rhan mewn dosbarth meistr gyda Dame Felicity Lott fel rhan o Ganwr y Byd Caerdydd ac, yn 2019, cyrhaeddodd rownd derfynol DU cystadleuaeth canu'r Clwb Rotary. Mae Katherine wedi canu a chwarae gyda nifer o ensemblau wedi'u harwain gan arweinydd megis côr Camerata Cymraeg Andrew Wilson-Dixon; Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gyda Tim Rhys Evans a Neil Ferris; Cerddorfa Ieuenctid Cymru gyda Carlo Rizzi ac Andrew Litton; Ad Solem; Corws Hallé; Côr Eglwys Gadeiriol Manceinion; a Cherddorfa a Chôr Ieuenctid Sir Caerdydd.