top of page

Polisi Preifatrwydd NEW Sinfonia

Ein manylion cyswllt

Enw: NEW Sinfonia

Cyfeiriad: 14 Applewood Close, Hermitage Park, Wrexham, LL13 7GU

Rhif ffôn: 07725 050510

​

Y math o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chasglu

Ar hyn o bryd rydym yn casglu ac yn prosesu'r wybodaeth ganlynol:

  • Dynodwyr, cysylltiadau a nodweddion personol (er enghraifft, enw a manylion cyswllt)

 

Sut rydyn ni'n cael y wybodaeth bersonol a pham rydyn ni'n ei chael?

Mae rhan fwyaf o'r wybodaeth bersonol a broseswn yn cael ei darparu  yn uniongyrchol gennych chi am un o'r rhesymau yma:

Marchnata, Ymchwil a Chyfathrebu am ein digwyddiadau

 

Rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol, o'r ffynonellau canlynol yn y senarios yma:

Cyswllt uniongyrchol trwy e-bost a chyfryngau cymdeithasol gydag ymholiadau gan aelodau'r cyhoedd

 

Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth rydych chi wedi'i rhoi i ni er mwyn marchnata, cynnal ymchwil ac anfon wybodaeth am ein digwyddiadau

​

​​Efallai y byddwn yn rhannu'r wybodaeth hon ag aelodau tîm artistig NEW Sinfonia a phartneriaid penodol lle bo angen.

​

​O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), y seiliau cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw:

(a) Eich caniatâd. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Gallwch wneud hyn trwy gysylltu â ni ar info@newsinfonia.org.uk

​

Mae ein cwmni yn cael ei gynnal ar blatfform Wix.com.  Gellir storio eich data trwy storio data wix.com, cronfeydd data a'r cymwysiadau cyffredinol Wix.com.  Mae nhw'n storio'ch data ar wasanaethau diogel tu ôl i wal dân. 

​

​Eich hawliau diogelu data​

​

​O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau gan gynnwys:

Eich hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.

Eich hawl i gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol rydych chi'n meddwl sy'n anghywir.  Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth rydych chi'n meddwl sydd yn anghyflawn.

Eich hawl i ddileu - Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.

Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.

Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.

Eich hawl i gludadwyedd data - Mae gennych hawl i ofyn inni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, mewn rhai amgylchiadau.

Nid yw'n ofynnol i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau.  Os gwnewch gais, mae gennym fis i ymateb ichi.

Cysylltwch â ni ar info@newsinfonia.org.uk, 07725 050510 os ydych am wneud cais.

​​​

Sut i gwyno

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol, gallwch wneud cwyn i ni ar info@newsinfonia.org.uk neu 07725 050510.

Gallwch hefyd gwyno i'r ICO os ydych chi'n anhapus â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data.

Cyfeiriad yr ICO:

 

Information Commissioner’s Office

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Cheshire

SK9 5AF

 

Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113

Gwefan ICO: https://www.ico.org.uk

bottom of page