
GRESFFORDD: I’R GOLEUNI ‘NAWR
Mae Gresffordd: I’r Goleuni ‘Nawr - a enwebwyd am Wobr Academi Ivors, yn adroddiad dramatig o un o drychinebau mwyngloddio gwaethaf yn hanes y DU - yn mynd ar daith yn 2026.

Ar ddydd Sul 22ain Medi 2024, bydd 90 mlynedd wedi bod ers y trychineb tyngedfennol yng Nglofa Gresffordd, un o’r trychinebau glofaol gwaethaf yn hanes Prydain. Mae’r trychineb yn berthnasol ac yn arwyddocaol hyd heddiw, nid yn unig i bobl Wrecsam, ond i gyn cymunedau glofaol ledled Cymru a ledled y DU.
Mae NEW Sinfonia yn cydweithio â Phrosiect Glowyr Wrecsam, Clwb Pêl-droed Wrecsam a sefydliadau ac artistiaid amrywiol ar draws Wrecsam i drefnu wythnos o ddigwyddiadau, i goffau 90 mlynedd ers trychineb glofaol Gresffordd.
Nod coffâd Cofio Gresffordd yw dod â’r stori emosiynol hon yn fyw, gan faethu sgyrsiau, undod, a helpu unigolion o bob rhan o’n cymuned i gysylltu naratif Gresffordd â’u profiadau cyfoes eu hunain.







Cyllidwyr





Affiliates



Noddwyr
I'W CYHOEDDI - Noddwr Cyffredinol
I'W CYHOEDDI - Opera Gresffordd
I'W CYHOEDDI - NEW Lleisiau
I'W CYHOEDDI - NEW Academi
Partners




