

NEW Lleisiau yw ein Corws Cymunedol hollgynhwysol, sy’n rhoi cyfleoedd i bawb archwilio eu hangerdd a’u cariad at ganu.
‘Dwi erioed wedi derbyn gymaint o gefnogaeth a theimlo mor werthfawr.’ - Ruth Clark

Pwy ydym ni?
NEW Lleisiau yw ein hensemble lleisiol hollgynhwysol. Mae ein 260 o aelodau brwdfrydig yn dod o bob cefndir ac yn rhannu angerdd am ganu. Rydym yn croesawu aelodau sydd â lefelau amrywiol o brofiad cerddoriaeth o gantorion profiadol i ddechreuwyr llwyr. Mae ein cantorion yn perfformio mewn cyngherddau mawreddog drwy gydol y flwyddyn ochr yn ochr â’n cerddorfa broffesiynol NEW Sinfonia.
Ble ydym ni?
Rydym yn ymarfer mewn dwy ganolfan ymarfer yng Ngogledd Cymru. Gall ein haelodau ddewis ymuno â ni yn Wrecsam neu Lanelwy ar fore Sadwrn am 10.00 - 12:00. Rydym yn gweithio o brosiect i brosiect ac felly mae'n gantorion yn ymrwymo i un prosiect ar y tro sydd fel arfer dros gyfnodau o 8-10 wythnos.
Cofrestrwch nawr i gael gwybod am ein prosiectau sydd i ddod
I gofrestri, cliciwch yma:
‘Mae NEW Lleisiau wedi rhoi ymdeimlad hyfryd o berthyn i mi ac mae’r elfen o sialens gyda chymaint o gymorth wedi gwella fy iechyd meddwl yn fawr.’ - Helen Andrews
Faint bydd y gost?
Talu beth yr allwch! Gofynnwn i'n haelodau wneud cyfraniad ar gyfer pob prosiect. Darganfod mwy am ein Cynllun Noddwyr, a gweld yn union sut y bydd eich cyfraniadau yn cael eu defnyddio.

‘Grŵp ffantastig’
'Llawennus!’
‘Hollol wych’
Ein Prosiectau
Mae NEW Lleisiau yn darparu profiadau perfformio amrywiol ac unigryw i’n cantorion dan arweiniad gweithwyr arbenigol y diwydiant. Rydym yn falch o allu cynnig cyfleoedd i’n cantorion berfformio ochr yn ochr â cherddorion proffesiynol o safon uchel ac i berfformio mewn gosodiadau proffesiynol.
‘Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn i fod yn rhan o NEW Lleisiau. Mae'r profiadau rydych chi'n eu darparu i'r côr yn anhygoel. Mae’n anrhydedd cael canu gyda NEW Lleisiau a derbyn mynediad i’r amrywiaeth o gerddoriaeth ac arbenigedd rydych chi’n eu darparu.’ – Sandra Jones
Y tîm cerddorol
Yn cyflwyno ein tîm o gerddorion proffesiynol

Jonathan Guy
Arweinydd ac Arweinydd Gweithdy

Robert Guy
Arweinydd ac Arweinydd Gweithdy

Kathy Macaulay
Cydlynydd Prosiect ac Arweinydd Gweithdy

Jenny Pearson
Arweinydd ac Arweinydd Gweithdy

Jon Guy
Cyfansoddwr ac Arweinydd Gweithdy

Bethan Conway
Cyfeilydd/Telynores ac Arweinydd Gweithdy
Sut mae cymryd rhan?
Cofrestrwch gan ddefnyddio ein ffurflen isod, neu anfonwch e-bost yn Gymraeg neu yn Saesneg at Kathy (katherine@newsinfonia.org.uk) i ymrwymo i'r corws.