top of page
man holding a violin

Ymddiriedolwyr

Headshot picture of Mike Corcoran smiling

Mike Corcoran

Mae Mike yn breswylydd hirdymor Gogledd Cymru sy’n gweithio gyda sefydliadau i ddatgloi pŵer trawsnewidiol y celfyddydau i bobl, lleoliadau a chymunedau. Mae’n ymgynghorydd gyda Labordy Cyd-gynhyrchu Cymru, yn Ymchwilydd Gwadd i Brifysgol Wrecsam, yn gynghorydd i Wasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru, ac yn aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol a Chymunedol Wrecsam.

Murphy_edited.jpg

Laura Murphy

Yn dod yn wreiddiol o Wrecsam, astudiodd Laura gerddoriaeth ym Mhrifysgol Nottingham, gan gwblhau ei gradd Meistr yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall. Ar ôl chwarae gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Southbank Sinfonia a Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, ymunodd â Cherddorfa Ffilharmonig Llundain yn 2020, ac mae’n parhau i fod yn berfformiwr cyson gyda NEW Sinfonia.

Portait headshot of trustee Mark Perkins

Mark Perkins

Mae Mark bob amser wedi bod yn angerddol am y celfyddydau a'r trydydd sector.  Mae'n rhannol berchen ar Chell Perkins Ltd, cwmni sy'n bodoli i  gynnig cefnogaeth a hyfforddiant i  elusennau bach a chanolig ledled y DU ar ddulliau ymarferol o godi arian.

 

Mae Mark yn credu'n gryf y dylai cerddoriaeth ar bob ffurf fod ar gael  i bawb.  Mae  Mark ei hun wedi cyfansoddi caneuon a chyfansoddiadau amatur gan weld ei gerddoriaeth yn cael ei pherfformio mewn cymysgedd eclectig o leoliadau - yn amrywio o gyfansoddiad ar gyfer ‘Cerddoriaeth Ieuenctid Swydd Gaerwrangon’ yn Neuadd Symffoni Birmingham, i unrhyw noson meic agored a fydd yn ei dderbyn, i sioe gerdd sy'n gwneud elw fel rhan o'i radd ym Mhrifysgol Efrog.  Ers cael plant, mae bellach bron yn gwbl hyddysg yn perfformio clasuron Disney a hwiangerddi i gynulleidfa o dri!

Evrah_edited.jpg

Evrah Rose

 Mae Evrah yn fardd, awdur ac actifydd sy'n adnabyddus am ei hegni di-ofn a'i geiriau trawiadol. Rhyddhawyd ei chasgliad barddoniaeth cyntaf – ‘Unspoken’ – yn 2019 gyda digwyddiadau lansio mewn lleoliadau ar draws y DU, gan gynnwys yn ei thref enedigol annwyl, Wrecsam. Mae Evrah wedi dod yn llais amlwg yng Nghymru, yn y gylch barddoniaeth ac ymhlith y rhai sy'n ymroddedig i achosion cymdeithasol.

Caroline Bithell

Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, mae Caroline ar hyn o bryd yn Athro Ethnogerddoreg ym Mhrifysgol Manceinion. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn creu cerddoriaeth yn y gymuned, materion hygyrchedd, manteision iechyd a lles cyfranogiad cerddorol, a cherddoriaeth fel fforwm ar gyfer cyfarfyddiadau rhyngddiwylliannol. Mae hi wedi cyhoeddi’n eang ar adfywiad cerddoriaeth draddodiadol yng Nghorsica a Georgia, ac ar y llais naturiol a mudiad corau cymunedol. Yn aelod hirsefydlog o’r Rhwydwaith Llais Naturiol, mae hi hefyd wedi arwain corau cymunedol ac wedi cyflwyno gweithdai llais mewn amrywiaeth o leoliadau gwahanol.

Tudur picture_edited.jpg

Tudur Eames

Mae Tudur Eames yn Gynhyrchydd Creadigol Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, sy’n hyrwyddo ac annog gweithgarwch cerddorol ymhlith plant a phobl ifanc y rhanbarth. Yn delynor proffesiynol sydd bellach yn byw yn Nhremeirchron, mae’n frwd dros y celfyddydau creadigol ac addysg. Mae Tudur yn siaradwr Cymraeg rhugl.

Katie Edwards

Ymunodd Katie â’r bwrdd ymddiriedolwyr trwy gynllun Gweithwyr Proffesiynol Ifanc ar Fyrddau Celfyddydau & Busnes Cymru. Mae hi’n dod yn wreiddiol o Wrecsam ac mae’n cydnabod llawer o’r llwyddiannau mae hi wedi’u mwynhau mewn bywyd i’r cyfleoedd cerddorol a gafodd pan oedd hi’n ifanc. Bellach wedi’i lleoli ger Caerdydd ac yn ymarfer fel cyfreithiwr yn nhîm tai cymdeithasol cwmni cyfreithiol cenedlaethol blaenllaw, mae’n awyddus i helpu i ddod â’r un cyfleoedd i’r genhedlaeth nesaf. Er iddi wrthod dysgu mwy nag un raddfa fel plentyn, ers hynny mae Katie wedi canu a chwarae sacsoffon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Gŵyl Jazz Corc, Eisteddfodau cenedlaethol a rhyngwladol, Neuadd Symffoni Birmingham ac, yn bwysicaf oll, Y Cae Ras/y Cae Ras.

Iona Hughes

Mae Iona wedi gweithio yn y sector amgylcheddol ers dros 25 mlynedd ac mae’n frwd dros wella ein hamgylchedd ac ysbrydoli eraill i ofalu am ein byd. Mae canu yn hobi i Iona. Dros y blynyddoedd mae hi wedi canu yn Cantorion Rhos, Lleisiau Clywedog a NEW Lleisiau ac wedi bod yn ymwneud â NEW Sinfonia ers dechrau eu taith fel ymddiriedolwr a gwirfoddolwr blaen tÅ·. Mae’n falch o fod yn ymddiriedolwr i NEW Sinfonia ac yn cefnogi eu cenhadaeth i ddod â cherddoriaeth glasurol I gynulleidfaoedd wahanol dros y gogledd-ddwyrain.

bottom of page