top of page

Amdanom ni

"Mae NEW Sinfonia ag angerdd am gerddoriaeth ac maent yn ailddiffinio'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn gerddorfa."

Mae NEW Sinfonia yn sefydliad celfyddydol amlochrog sydd â cherddorfa siambr broffesiynol, corws cymuned NEW Lleisiau a rhaglen addysg NEW Academi, wedi’i lleoli ar draws Gogledd Cymru.
Ein cenhadaeth yw sicrhau bod profiadau cerddorol arloesol newydd o’r safon uchaf ar gael i bawb, creu cyfleoedd cerddorol i artistiaid lleol a chreu prosiectau cynaliadwy a pherthnasol i’n cymunedau.

Pwy ydym ni?

Mae ein tîm artistig, sy’n cynnwys cerddorion proffesiynol cyffrous a chreadigol o bob rhan o Ogledd Cymru a thu hwnt, yn hynod falch o ddiwylliant a threftadaeth Cymru. Hon yw sylfaen ein holl actifedd. Rydym yn falch o fod wedi cefnogi ac arddangos cannoedd o gerddorion llawrydd rhinweddol o Ogledd Cymru a thu hwnt dros y ddegawd ddiwethaf. Mae creu gwaith ar gyfer cerddorion llawrydd yng Ngogledd Cymru wrth ddod â cherddoriaeth o safon uchel i gynulleidfaoedd yn rhan annatod o genhadaeth ein sefydliad.

New-Sinfonia-New-Year-Gala-017.jpg
Up from Underground at St Asaph-5.jpg

Credwn yng ngrym gweithiau newydd i fynegi profiadau cyfoes ac adrodd straeon newydd. Mae hyrwyddo cerddoriaeth newydd a chyfansoddwyr newydd yn ganolog i'n rhaglen. Rydym yn falch o fod wedi perfformio premiere dwy opera gymunedol newydd-sbon yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar y straeon lleol Gelert a Thrychineb Glofaol Gresffordd a ysgrifennwyd gan gyfansoddwyr a aned yng Ngogledd Cymru. Mae NEW Sinfonia hefyd wedi perfformio premiere gweithiau gan Claire Victoria Roberts, Cameron Biles-Liddell, Phanil Ibragimov, Elvir Solak, Brian Hughes, Paul Mealor, a Jon Guy.

LIME-2023_The-White-Flower-into-the-Light_stephencainphotography-045.jpg

Ein Prosiectau

Mae Mae rhaglen NEW Sinfonia yn dod â chyngherddau amrywiol ac arloesol i fyd cerddoriaeth glasurol Gogledd Cymru. Mae ein prosiectau’n amrywio o ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar y teulu fel Slumbersaurus ac Y Dyn Eira i brosiectau mawreddog megis ein hymddangosiad cyntaf at Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 2022 a’n Cyngerdd Gala Blwyddyn Newydd blynyddol - nodwedd anhepgor o galendr cerddorol Wrecsam. Mae addysg a gwaith cymunedol cerddorol yn ganolog i'n rhaglen. Mae’r mwyafrif o’n prosiectau’n cael eu gwneud ar y cyd â’n canghennau eraill – Corws Cymunedol NEW Lleisiau, a’n rhaglen addysg NEW Academi.

Gresford - Schools Concert 3.png

Dysgu mwy am ein digwyddiadau a darganfod beth sy 'mlaen

Canllaw Polisi a Chod Ymddygiad
bottom of page