top of page

Gwawrio yn Gytûn

Sad, 01 Ebr

|

Wrecsam

Straeon a cherddoriaeth gan bawb sy'n galw Wrecsam yn gartref

Mae cofrestru ar gau
Gweler digwyddiadau eraill
Gwawrio yn Gytûn
Gwawrio yn Gytûn

Amser a Lleoliad

01 Ebr 2023, 19:30 – 21:30

Wrecsam, Eglwys San Silyn, Wrecsam LL13 7AA, DU

Am y Digwyddiad

Rydym ni yn dod at ein gilydd yng nghanol Wrecsam i adrodd straeon y rhai sy’n galw’r ddinas yn gartref iddynt. Ymuno a ni i ddathlu cynhwysiant, heddwch, ac amlddiwylliant trwy gerddoriaeth wedi’i chanu gan ein hensemble lleisiol cynhwysol NEW Lleisiau, ffoaduriaid o Wcrain, Rwsia, a Syria, ac wedi’i chwarae gan gerddorion proffesiynol NEW Sinfonia.

 

Ymgollwch o fewn i ddrama Dies Irae Mozart, gobaith Y Tangnefeddwyr gan Eric Jones, a llawenydd Ukrainian River Song gan Roman Yakub. Torheulwch ymhlith harddwch y gan ysbrydol teimladwy Deep River a dwyster Adagio for Strings gan Barber. Mwynhewch ffefrynnau megis Ar Hyd y Nos a chanwch gyda ni o fewn ein perfformiad cymunedol o You’ll Never Walk Alone!

 

Rydym ni’n ddedwydd ein bod wedi cryfhau ein perthynas gyda UareUK trwy groesawi ffoaduriaid i ymuno ein hensemble Lleisiol NEW Lleisiau. Mi fydd y cyngerdd hwn hefyd yn cynnwys darn newydd o gerddoriaeth wedi ysgrifennu gan gantor o NEW Lleisiau Klaus Armstrong-Braun. Ar ôl dod yn amddifad yn yr Almaen yn ystod yr ail ryfel byd, cymerodd Klaus siwrne gymhleth yn byw gyda 19 teulu cynnal yn Lloegr, Cymru, ac Iwerddon, ac maent wedi dod i hyd i deulu a chartref yn Wrecsam gyda NEW Sinfonia. Dros y blynyddoedd sgwennodd sawl gerdd a chan a gyda help NEW Sinfonia, mi fydd can ganddo yn cael ei pherfformio fel rhan o Gwawrio yn Gytûn.

 

Mae’r prosiect unigryw hon yn cael ei gefnogi gan Wrecsam 2029. Rydym yn falch iawn i fod yn cyfrannu unwaith eto i gais Wrecsam I fod Dinas Diwylliant y DU ac rydym yn edrych ymlaen i ddod a phawb at ei gilydd i ddathlu diwylliant amrywiol ein dinas!

Tocynnau

  • Tocyn

    This is a ticket for NEW Sinfonia's We Rise Together concert on Saturday 1sts April 2023 at St Giles Church Wrexham.

    From £1.00 to £15.00
    Sale ended
    • £15.00
    • £5.00
    • £1.00

    Rhannwch y Digwyddiad hwn

    bottom of page