Antur Rawrdderchog Slumbersaurus
Llun, 25 Mai
|Tŷ Pawb
Dewch i ymuno â Slumbersaurus ar gyfer yr antur gerddorol RAWRDDERCHOG ddiweddaraf wrth i ni fynd ar daith i ddarganfod lleoliad Rysáit Bara Brith coll Nain.


Amser a Lleoliad
25 Mai 2026, 15:00 – 15:50
Tŷ Pawb, Tŷ Pawb, Market St, Wrecsam LL13 8BB, UK
Am y Digwyddiad
Wrth fwyta sleisen o Fara Brith blasus Nain, mae Slumbersaurus yn cael ei synnu gan sgrech anferthol gan Nain wrth iddi sylweddoli, er mawr arswyd iddi, fod ei rysáit gyfrinachol enwog ar goll. Wedi'i syfrdanu gan y newyddion ofnadwy hwn, mae Slumbersaurus yn dechrau meddwl tybed ble, ble, y gallai'r rysáit fod? Gyda anadl ddofn, mae'n cychwyn ar daith i ddod o hyd i'r rysáit goll ond, gyda llawer o rwystrau peryglus ar hyd y daith, bydd angen cefnogaeth arno. A allech chi helpu i ddod o hyd iddi? Hoffech chi antur?
Ymunwch â Slumbersaurs a NEW Sinfonia am Antur Gerddorol RAWRDDERCHOG wrth i ni gymryd drosodd Tŷ Pawb am y diwrnod. Wedi'i greu ar gyfer ein cynulleidfaoedd ieuengaf, mae ein hanturiaethau cerddorol hudolus Slumbersaurus yn gyflwyniad perffaith i gerddoriaeth glasurol. Rydym yn cyfuno cerddoriaeth fyw, adrodd straeon, chwarae dychmygus a gweithgareddau crefft i greu profiadau amlsynhwyraidd, deniadol.
Mae rhywbeth…
Tocynnau
Mynediad Cyffredinol
Dyma'ch tocyn digwyddiad ar gyfer perfformiad Antur Rawrdderchog Slumbersaurus am 3:00pm yn Tŷ Pawb ddydd Llun 25ain Mai 2026.
£+Ticket service fee
Total
£0.00
