top of page

Natur a Ni

Sad, 26 Tach

|

Pafiliwn Llangollen Pavilion

Gweu antur gerddorol eich hun o gerddoriaeth wedi’i hysbrydoli gan fyd natur wrth i ni berfformio ar hyd 2 lwyfan o fewn gosodiad eiconig Pafiliwn Llangollen.

Mae cofrestru ar gau
Gweler digwyddiadau eraill
Natur a Ni
Natur a Ni

Amser a Lleoliad

26 Tach 2022, 14:15 – 16:50

Pafiliwn Llangollen Pavilion, Abbey Rd, Llangollen LL20 8SW, UK

Am y Digwyddiad

Ymgollwch o fewn i gerddoriaeth wedi’i hysbrydoli gan fyd natur yn ein Harddangosfa Sain Fawr ddiweddaraf. Mae Natur a Ni yn fwffe wedi’i osod ar hyd dau lwyfan o fewn Pafiliwn byd-enwog Llangollen.

 

Os ydych yn ffafrio campweithiau traddodiadol yna byddwch wrth eich bodd i glywed Vivaldi ac Elgar. Os oes well gyda chi ddrama a dwyster yna mi fydd Piazzolla a Greig yn sicr o’ch bodloni. Efallai byddwch yn mwynhau twist Cymraeg modern gan Claire Victoria-Roberts neu Cameron Biles-Liddell neu fawredd moethus oddi wrth Smetena.

 

Os ydych yn ifanc, neu’n ifanc yn eich craidd, yna ymunwch Slumbersaurus wrth iddo gychwyn ar antur gerddorol newydd ar hyd coedwigoedd, camlesi a mynyddoedd Bro Llangollen. Ar gyfer yr arbenigwyr lleisiol yn eich plith, ymwelwch seiniau cyfoethog a gyflenwir gan NEW Lleisiau.

Mae archwilio’r ddau lwyfan wedi’i hannog, trochwch i mewn ag allan, cewch ddiod wrth y bar, neu setlwch i mewn ar gyfer profiad cerddorol heb ei ail.

 

Mae Natur a Ni wedi’i chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Gronfa Datblygu Gynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac Ymddiriedolaeth Ralph Vaughan Williams. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r ddau bartner am ei gefnogaeth.

 

Mae’r digwyddiad wedi’i chyflwyno mewn cysylltiad gyda Gŵyl Nadolig Llangollen. Mae’r ŵyl yn dechrau gyda pharêd trwy’r dre am 1yp (disgwyliwch peth aflonyddwch ar Heol Abbey), wedi’i ddilyn gan ddigwyddiadau a marchnad o fewn ac o amgylch y dre. Mi fydd y goleuadau Nadolig yn cael ei droi ymlaen am 5yp wedi’i ddilyn gan dan wyllt. Mae ein digwyddiad ni yn gorffen gydag amser i bawb mwynhau’r diweddglo ysblennydd.

Tocynnau

  • Tocyn Safonol

    This is a Standard Ticket for 'Nature and Us | Natur a Ni' at Pafiliwn Llangollen Pavilion on Saturday 26th November at 2.15pm. All tickets are for unreserved seating.

    £15.00
    Sale ended
  • Tocyn dan 18 oed

    This is an Under 18s ticket for 'Nature and Us | Natur a Ni' at Pafiliwn Llangollen Pavilion on Saturday 26th November at 2.15pm. All tickets are for unreserved seating.

    £0.00
    Sale ended
  • Student Ticket

    This is a Student Ticket for 'Nature and Us | Natur a Ni' at Pafiliwn Llangollen Pavilion on Saturday 26th November at 2.15pm. All tickets are for unreserved seating and please bring Student ID.

    £5.00
    Sale ended

Total

£0.00

Rhannwch y Digwyddiad hwn

bottom of page