top of page

Miwsig a Dynoliaeth - Arddangosfa

Gwen, 05 Ebr

|

Eagles Meadow, Uned D13

Disgwyliwch brofiad sy'n wahanol i unrhyw un arall gyda gosodiadau celf ryngweithiol, sesiynau crefft, a chelf weledol, wedi’i chyflwyno mewn lleoliad blaengar ysgogol gan Hyb ffoaduriaid United to Assist Refugees UK Wrecsam.

Miwsig a Dynoliaeth - Arddangosfa
Miwsig a Dynoliaeth - Arddangosfa

Amser a Lleoliad

05 Ebr 2024, 14:00 – 19:00

Eagles Meadow, Uned D13, Ffordd Smithfield, Wrecsam LL13 8DG, DU

Am y Digwyddiad

Ymunwch â NEW Sinfonia a'r Hyb Ffoaduriaid UareUK ar gyfer arddangosfa amlgyfrwng o gerddoriaeth a chelf weledol wedi selio ar straeon dadleoli.


Disgwyliwch brofiad sy'n wahanol i unrhyw un arall gyda gosodiadau celf ryngweithiol, sesiynau crefft, a chelf weledol, wedi’i chyflwyno mewn lleoliad blaengar ysgogol gan Hyb ffoaduriaid United to Assist Refugees UK Wrecsam.


Mynychwch yr arddangosfa am ddim ac ystyried gwneud cyfraniad fel rhodd os yr allwch.


Arddangosfa Miwsig a Dynoliaeth – Beth sy’ ymlaen?


2:00-7:00pm - Ar agor dydd Iau a dydd Gwener

2:30-3:15 – Gweithdy Ymwybyddiaeth

3:30-4:15 – Taith Tywys

3:00-5:00 – Sesiwn grefftau (Rhaid archebu lle)

Gweler ein tudalen digwyddiad i archebu lle a darganfod mwy!

5:15-6:00 – Taith Tywys

5:00-7:00 – Caffi a Siop ar agor

7:00-8:00 (Gwener yn unig) – Bath Sain 


Yr Arddangosfa


Bydd yr arddangosfa’n cynnwys arddangosion rhyngweithiol wedi’u curadu gan aelodau’r Hyb gan gynnwys Bwth Anrhefn: arddangosfa sy’n ceisio eich trochi i fyd anghyfarwydd gan uwcholeuo rhai o’r heriau y mae ffoaduriaid yn eu hwynebu wrth gyrraedd gwlad newydd, a Beth Fyddech chi’n ei Gymeryd?: Her sy'n helpu cyfranogwyr i ddeall rhai o'r aberthau y mae ffoaduriaid yn cael eu gorfodi i'w gwneud.


Bydd casgliad diweddaraf yr artist o Syria, Ghazwan Assaf, o’r enw ‘Dianc a Gobaith’, yn rhan o’r arddangosfa.


Rydw i yn erbyn rhyfel yn Syria neu Wcráin neu unrhyw le arall yn y byd. Rydw I’n eiriolwr dros heddwch ac rydw i'n tynnu lluniau ar gyfer dynoliaeth.’ - Ghazwan


Mae'r gwanwyn hwn yn nodi blwyddyn ers ein prosiect cyntaf gyda UareUK a dwy flynedd ers goresgyniad yr Wcráin a dechrau'r rhyfel parhaus. Rydym ni'n cyflwyno'r cyngerdd hwn fel galwad am, ac ar gyfer, dynoliaeth.


Yn sgil ein partneriaeth llynedd gyda UareUK, rydym yn falch iawn ein bod yn medru cyflwyno cyngerdd arall a fydd yn codi ymwybyddiaeth o realaeth ffoaduriaid heddiw yn y DU, yn codi arian i gefnogi UareUK, ac yn dod â rhaglen ingol o gelf weledol a cherddoriaeth o safon uchel i’n cynulleidfaoedd.


Mae dynoliaeth yn teimlo’n fwy rhanedig nag erioed. Ac eto dynoliaeth yw'r ateb bob amser. Yn y pen draw, yr unig ateb.’ - Mark Wigglesworth (arweinydd)

Rhannwch y Digwyddiad hwn

bottom of page