Miwsig a Dynoliaeth
Sad, 06 Ebr
|Eagles Meadow, Uned D14
Ymunwch â NEW Sinfonia a'r Hyb Ffoaduriaid UareUK ar gyfer arddangosfa amlgyfrwng o gerddoriaeth a chelf weledol wedi selio ar straeon dadleoli.
Amser a Lleoliad
06 Ebr 2024, 18:30 – 20:00
Eagles Meadow, Uned D14, Ffordd Smithfield, Wrecsam LL13 8DG, DU
Am y Digwyddiad
Ymunwch â NEW Sinfonia a'r Hyb Ffoaduriaid UareUK ar gyfer arddangosfa amlgyfrwng o gerddoriaeth a chelf weledol wedi selio ar straeon dadleoli.
Disgwyliwch brofiad sy'n wahanol i unrhyw un arall gyda gosodiadau celf ryngweithiol a rhaglen deimladwy o gerddoriaeth wedi’i chyflwyno mewn lleoliad blaengar ysgogol gan NEW Lleisiau, NEW Sinfonia, a Khrystyna Makar.
Mae'r gwanwyn hwn yn nodi blwyddyn ers ein prosiect cyntaf gyda UareUK a dwy flynedd ers goresgyniad yr Wcráin a dechrau'r rhyfel parhaus. Rydym ni'n cyflwyno'r cyngerdd hwn fel galwad am, ac ar gyfer, dynoliaeth.
Llynedd, fe wnaethom gyflwyno Gwawrio'n Gytûn – cyngerdd ar y cyd â ffoaduriaid o’r Hyb a ddaeth a chymunedau Wrecsam at ei gilydd i adrodd straeon pawb sy’n galw Wrecsam yn gartref. Croesawyd aelodau’r Hyb Ffoaduriaid i’n hensemble lleisiol hollgynhwysol NEW Lleisiau ac rydym wrth ein bodd bod cymaint bellach wedi dod yn aelodau hirsefydlog o’r ensemble a fydd yn canu gyda ni yn y cyngerdd yma.
Bydd NEW Lleisiau yn ymddangos ochr yn ochr â chwaraewyr o NEW Sinfonia a’r unawdydd clodwiw Khrystyna Makar yn perfformio rhaglen sy’n canolbwyntio ar hanesion dadleoli ac yn gymysg â cherddi a straeon ffoaduriaid. Mae’n bleser mawr gennym gyflwyno cyngerdd arall a fydd yn codi ymwybyddiaeth o realaeth ffoaduriaid heddiw yn y DU, yn codi arian i gefnogi UareUK, ac yn dod â rhaglen ingol o gerddoriaeth o safon uchel i’n cynulleidfaoedd.
Bydd ein rhaglen yn cynnwys cerddoriaeth o waith yr heddychwr angerddol Michael Tippett A Child of Our Time. Mae'r darn, a ysgrifennwyd ar ddechrau'r rhyfel ym 1939, yn galw am ddynoliaeth trwy dynnu nifer o safbwyntiau cerddorol ac ysbrydol ynghyd trwy eu cysylltu trwy themâu a phrofiadau cyffredin.
Bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys In Remembrance y darn teimladwy gan Eleanor Daley, Wayfaring Stranger a drefnwyd gan Greg Gilpin, a Hafan Gobaith (‘Haven of Hope’) gan Delyth Rees.
‘Mae dynoliaeth yn teimlo’n fwy rhanedig nag erioed. Ac eto dynoliaeth yw'r ateb bob amser. Yn y pen draw, yr unig ateb.’ - Mark Wigglesworth (arweinydd)
Tocynnau
Mynediad cyffredinol
General Admission ticket to the We Rise Together #2 - Music and Humanity Concert on Saturday 6th April 2024 at Eagles Meadow. Please note all tickets are for unreserved seats.
From £1.00 to £16.00Sale ended- £16.00+£0.40 service fee
- £1.00+£0.03 service fee
- £5.00+£0.13 service fee
Total
£0.00