Gresffordd: I’r Goleuni ‘Nawr
Sul, 22 Medi
|Eglwys San Silyn, Wrecsam
Opera gymunedol newydd - Gresffordd - i nodi 90 mlynedd ers Trychineb Glofaol Gresffordd
Amser a Lleoliad
22 Medi 2024, 20:00 – 21:30
Eglwys San Silyn, Wrecsam, Church St, Wrecsam LL13 8LS, UK
Am y Digwyddiad
Ymunwch â ni ar gyfer brosiect mwyaf uchelgeisiol NEW Sinfonia erioed – opera gymunedol newydd sbon gyda cherddoriaeth gan Jon Guy a libreto gan Grahame Davies wedi seilio ar stori Trychineb Glofaol Gresffordd gan amlygu ymdeimlad cryf Wrecsam o gymuned yn hanesyddol a phresennol.
Ar ddydd Sul 22 Medi 2024, bydd 90 mlynedd wedi bod ers y trychineb tyngedfennol yng Nglofa Gresffordd, un o’r trychinebau glofaol gwaethaf yn hanes Prydain. Mae’r trychineb yn berthnasol ac yn arwyddocaol hyd heddiw, nid yn unig i bobl Wrecsam, ond i gymunedau glofaol ledled Cymru a ledled y DU. Fodd bynnag, ymhen ychydig flynyddoedd, mi fydd cof byw o'r trychineb yn cael ei ymrwymo i hanes.
Mae themâu colled, anghyfiawnder cymdeithasol, a di-rym, yn ogystal â buddugoliaethau dros adfyd a dathlu hunaniaeth ddiwylliannol i gyd yn ganolog i stori Gresffordd. Rydyn ni’n dod â’r stori emosiynol hon yn fyw, mewn ffordd sy’n ysgogi sgwrs, yn dod â phobl at ei gilydd, ac yn helpu cynulleidfaoedd (o bob cornel o’n cymuned) i gysylltu stori Gresffordd â’u profiadau cyfoes eu hunain.
Mae’r libreto gan Grahame Davies o Goedpoeth wedi’i osod i gerddoriaeth gan y cyfansoddwr a anwyd yn Wrecsam, Jon Guy, a bydd yn cael ei ganu a’i berfformio gan gast o gantorion opera proffesiynol, ein corws opera cymunedol NEW Lleisiau, a’n cerddorfa siambr NEW Sinfonia dan arweiniad Robert Guy. Mi fydd y perfformiad hefyd yn cynnwys darn o farddoniaeth newydd gan y bardd ac actifydd Evrah Rose.
Bydd opera Gresffordd yn rhan o ŵyl goffa dinas-gyfan gyda sefydliadau ac artistiaid ar draws Wrecsam yn dod at eu gilydd i nodi 90 mlynedd ers trychineb glofaol Gresffordd. Bydd mwy o weithgarwch yn ymddangos maes o law ar ein tudalen digwyddiadau.
Cast a Thîm Creadigol
Alan – Rhys Meilyr
Doreen – Kathy Macaulay
Gwyneth – Khrystyna Makar
John - Sam Snowdon
Margaret - Morgana Warren-Jones
Cyfansoddwr – Jon Guy
Libretydd – Graham Davies
Cyfarwyddwr Cerdd - Robert Guy
Cyfarwyddwr – Ruth Evans
Cyfarwyddwr Corws – Jenny Pearson
Dylunydd - Bridget Wallbank
Cynorthwy-ydd Gwisg – Greta Baxter
Dylunydd Clyweledol – Ant Dickinson
Répétiteur - Bethan Conway & Ben
Attfield
Cydgysylltydd Corws a Phrosiect - Kathy Macaulay
Peiriannydd Technoleg/Sain - Olli Bentley
Rheolwr Llwyfan - Sioned Foulkes
Cynorthwydd Llwyfan - Millie Whittle