Sad, 21 Medi
|Eglwys San Silyn, Wrecsam
Gresffordd: I’r Goleuni ‘Nawr
Opera gymunedol newydd - Gresffordd - i nodi 90 mlynedd ers Trychineb Glofaol Gresffordd
Amser a Lleoliad
21 Medi 2024, 20:00 – 21:30
Eglwys San Silyn, Wrecsam, Church St, Wrecsam LL13 8LS, UK
Am y Digwyddiad
Ymunwch â ni ar gyfer brosiect mwyaf uchelgeisiol NEW Sinfonia erioed – opera gymunedol newydd sbon gyda cherddoriaeth gan Jon Guy a libreto gan Grahame Davies wedi seilio ar stori Trychineb Glofaol Gresffordd gan amlygu ymdeimlad cryf Wrecsam o gymuned yn hanesyddol a phresennol.
Ar ddydd Sul 22 Medi 2024, bydd 90 mlynedd wedi bod ers y trychineb tyngedfennol yng Nglofa Gresffordd, un o’r trychinebau glofaol gwaethaf yn hanes Prydain. Mae’r trychineb yn berthnasol ac yn arwyddocaol hyd heddiw, nid yn unig i bobl Wrecsam, ond i gymunedau glofaol ledled Cymru a ledled y DU. Fodd bynnag, ymhen ychydig flynyddoedd, mi fydd cof byw o'r trychineb yn cael ei ymrwymo i hanes.
Mae themâu colled, anghyfiawnder cymdeithasol, a di-rym, yn ogystal â buddugoliaethau dros adfyd a dathlu hunaniaeth ddiwylliannol i gyd yn ganolog i stori Gresffordd. Rydyn ni’n dod â’r stori emosiynol hon yn fyw, mewn ffordd sy’n ysgogi sgwrs, yn dod â phobl at ei gilydd, ac yn helpu cynulleidfaoedd (o bob cornel o’n cymuned) i gysylltu stori Gresffordd â’u profiadau cyfoes eu hunain.
Mae’r libreto gan Grahame Davies o Goedpoeth wedi’i osod i gerddoriaeth gan y cyfansoddwr a anwyd yn Wrecsam, Jon Guy, a bydd yn cael ei ganu a’i berfformio gan gast o gantorion opera proffesiynol, ein corws opera cymunedol NEW Lleisiau, a’n cerddorfa siambr NEW Sinfonia dan arweiniad Robert Guy. Mi fydd y perfformiad hefyd yn cynnwys darn o farddoniaeth newydd gan y bardd ac actifydd Evrah Rose.
Bydd opera Gresffordd yn rhan o ŵyl goffa dinas-gyfan gyda sefydliadau ac artistiaid ar draws Wrecsam yn dod at eu gilydd i nodi 90 mlynedd ers trychineb glofaol Gresffordd. Bydd mwy o weithgarwch yn ymddangos maes o law ar ein tudalen digwyddiadau.
Cast a Thîm Creadigol
Alan – Rhys Meilyr
Doreen – Kathy Macaulay
Gwyneth – Khrystyna Makar
John - Sam Snowdon
Margaret - Morgana Warren-Jones
Cyfansoddwr – Jon Guy
Libretydd – Graham Davies
Cyfarwyddwr Cerdd - Robert Guy
Cyfarwyddwr – Ruth Evans
Cyfarwyddwr Corws – Jenny Pearson
Dylunydd - Bridget Wallbank
Cynorthwy-ydd Gwisg – Greta Baxter
Dylunydd Clyweledol – Ant Dickinson
Répétiteur - Bethan Conway & Ben
Attfield
Cydgysylltydd Corws a Phrosiect - Kathy Macaulay
Peiriannydd Technoleg/Sain - Olli Bentley
Rheolwr Llwyfan - Sioned Foulkes
Cynorthwydd Llwyfan - Millie Whittle
Tocynnau
Corff Canolog Premiwm
Seddi gorau yn y tŷ!
From £3.00 to £20.00On Sale
- £20.00+£0.50 service fee
- £8.00+£0.20 service fee
- £3.00+£0.08 service fee
Corff Canolog Safonol
Golygfa ddi-dor o'r llwyfan.
From £2.00 to £18.00Sold Out- £18.00+£0.45 service fee
- £2.00+£0.05 service fee
- £6.00+£0.15 service fee
Asgell Ogleddol Premiwm
Golygfa wych o'r llwyfan o'r Asgell Ogleddol.
From £2.00 to £18.00On Sale
- £18.00+£0.45 service fee
- £2.00+£0.05 service fee
- £6.00+£0.15 service fee
Asgell Ogleddol Safonol
Gall golygfa o'r llwyfan gael ei chyfyngu'n rhannol oherwydd pileri'r eglwys.
From £1.00 to £16.00On Sale
- £16.00+£0.40 service fee
- £1.00+£0.03 service fee
- £5.00+£0.13 service fee
Asgell Ddeheuol Premiwm
Golygfa wych o'r llwyfan o'r Asgell Ddeheuol.
From £2.00 to £18.00On Sale
- £18.00+£0.45 service fee
- £2.00+£0.05 service fee
- £6.00+£0.15 service fee
Asgell Ddeheuol Safonol
Gall golygfa o'r llwyfan gael ei chyfyngu'n rhannol oherwydd pileri'r eglwys.
From £1.00 to £16.00On Sale
- £16.00+£0.40 service fee
- £1.00+£0.03 service fee
- £5.00+£0.13 service fee
Golygfa Gyfyngedig
Cyfyng iawn yw'r olygfa o'r llwyfan o'r sedd hon oherwydd y Golofn Eglwysig. Bydd y sain yn dal i fod yn drawiadol!
From £0.50 to £6.00On Sale
- £6.00+£0.15 service fee
- £0.50+£0.01 service fee
- £2.00+£0.05 service fee